23/08/2011

Cyfarfod 1

Cyfarfod Cofeb Gwrthryfel Merthyr
Theatr Soar, Canolfan Gymraeg Merthyr Tudful 6.06.11
6.00 o’r Gloch

 
Presennol
Gus Payne, Rhian Prosser, Edwyn Parry, Tony Rogers , Lisbeth McLean.

Ymddiheuriadau
Jamie Bevan, Gavin Lewis.

Rhoddodd Gus cyflwyniad i bwrpas y cyfarfod, sef sefydlu grŵp gyda’r nod o osod cofeb er cof Gwrthryfel Merthyr ar hen leoliad y ‘Castle Cinema’.

Esboniodd Rhian fod rhaid adeiladu adeilad arall ar y safle ond bod bwriad i osod rhyw fath o gelf gyhoeddus ar y safle. Dywedodd  bod ymgynghoriad cyhoeddus hefyd yn fwriad er mwyn penderfynu ar y fath o gelf i osod.  Felly mae sefydliad y grŵp yma yn gweddu’n dda gyda chynlluniau’r cyngor.

Gofynnodd Rhian i’r grŵp datgan beth yn union maen nhw am weld ar y safle gan fod y cyngor yn hapus i wrando.  Dywedodd Rhian fod ymwelwyr wedi gofyn (yn ystod  Eisteddfod Genedlaethol Blaenau’r Cymoedd) ble roedd ein teyrnged i Dic Penderyn.

Nodwyd bod rhaid codi ymwybyddiaeth gymunedol a sicrhau ymrwymiad y gymuned tuag at y cynllun.

Awgrymodd Rhian ddylai Michelle Powell (Cymunedau’n Gyntaf y Dref) cael gwahoddiad i’r cyfarfod nesaf. 

Dywedodd Rhian ei bod hi wedi siarad gyda’r ‘Heritage Trust’ a'i bod yn awyddus bod y gwaith celf yn deyrnged i Morgan Williams, arweinydd cyntaf y Siartiaid yn hytrach na Dic Penderyn.

Dywedodd Lis ei bod hi wedi sôn am y cynllun mewn cyfarfod Partneriaeth Ganol y Dref yn ddiweddar a bod dim gwrthwynebiad i’r syniad.  Hefyd trafododd hi’r cynllun gyda Mark Taylor ar ôl y cyfarfod a dywedodd bod cyllid ar gael, er nad oedd yn sicr am faint o gyllid.

Dywedodd Rhian fod y cyllid ar gael a bod y cynllun yn clymu mewn gyda’r Strategaeth Celf Gyhoeddus.

Trafodwyd beth hoffai’r grŵp gweld y gelf yn edrych fel.  Trafodwyd dylid y gelf symboleiddio’r faner goch, adlewyrchu’r hen ddelwedd draddodiadol ond apelio at, ac ysbrydoli’r hen ac ifanc.  Nodwyd bod rhaid cynnwys yr iaith Gymraeg ar unrhyw gelf o’r fath.

Awgrymodd Rhian ddylai’r grŵp cysylltu â Craig Pierce, Glamorgan GATES er mwyn trafod syniadau.  Dilynodd trafodaeth am opsiynau celf gymunedol neu gelf broffesiynol.  Penderfynwyd dylai’r grwp ystyried ysgrifennu crynodeb a’i chyflwyno i arlunwyr proffesiynol, awgrymwyd dylid gofyn i arlunwyr awgrymu cynrychioliad o’r faner goch.

Gofynnwyd pryd buasai’r gelf yn cael ei osod ac atebodd Gus dylai cael ei pharatoi a chadw tan fod yr adeilad wedi adeiladu.

Cytunwyd dylai agoriad y cofeb cael ei hyrwyddo a dathlu.

Trafodwyd y syniadau canlynol:
·        Celf wedi gosod yn y llawr yn ogystal â chof golofn.
·        Llwybr awduron rhwng y Coleg, Hen Neuadd y Dref a Soar yn y dyfodol.
·        Gofod perfformio/cornel siaradwyr o gwmpas y cofeb

Gweithred:
·        Rhian i adrodd nôl i Gavin Lewis ac ystyried arlunwyr
·        Grwp i ysgrifennu crynodeb ar gyfer arlunwyr, Gus I’w gydlynu
·        Mae angen gwahodd mwy o bobl i’r cyfarfod nesaf
·        Rhian i ffeindio mas beth yw’r cyllid

Nodwyd Rhian hoffai’r cyngor gweld y grwp yn datblygu i gynnwys celf gyhoeddus ar led y dref. 

Gofynnodd Lis pryd byddwn yn debyg o weld y cynllun yn cael ei gwireddu ac atebodd Rhian fod rhaid gweld beth sy’n digwydd gyda’r adeilad yn gyntaf a dylem wybod mwy ymhen y 4-6 wythnos nesaf.

Dyddiad y cyfarfod nesaf:  Dydd Llun 11 Gorffennaf am 6 o’r gloch yn y Ganolfan Gymraeg.

No comments: